Rhai o'r Galiaid (Welsh)

asterix
Asterix ei hun, prif arwr yr anturiaethau hyn. Ymladdwr eofn, bach o ran corff ond call a deallus. Iddo ef yr ymddiriedir pob antur beryglus. Daw ei nerth goruwchddynol o'r ddiod hud a ddarperir gan y derwydd Crycymalix.
panoramix
Crycymalix, derwydd hynafol y pentref. Casglwr uchelwydd a bragwr diodydd hud. Ei ddiod fwyaf poblogaidd yw'r un sy'n rhoi nerth goruwchddynol i'r sawl sy'n ei hyfed. Ond mae ganddo star o rysáits eraill wrth gefn ...
assurancetourix
Odlgymix yw'r bardd. Ceir mwy nag un farn am ei awen. Cred ef ei fod yn athrylith. Cred pawb arall ei fod yn annioddefol. Ond dim' ond iddo beidio ag agor ei geg, gall fod yn gwmniwr hoffus a diddan ...
obelix
Obelix, cyfaill mynwesol Asterix. Dosbarthwr meini hirion a gwleddwr ar faeddod gwylltion. Mae hwn bob amser yn eiddgar i ddilyn Asterix ar antur newydd - ar yr amod bod 'na ddigon o faeddod a digon o ymladd ...
abraracourcix
Einharweinix, pennaeth y llwyth. Hen ryfelwr mawreddog, dewr, llidiog a byrbwyll; eilun ei ddilynwyr, dychryn ei elynion. Un peth yn unig y mae Einharweinix yn ei ofni: sef y bydd y nen yn syrthio ar ei ben. Ond fel y dywed e bob amser: "Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun."